(1)Mae’r adran hon yn gymwys—
(a)os yw deiliad contract (“D”) o dan gontract meddiannaeth (“y prif gontract”) yn ymrwymo i gontract isfeddiannaeth yn unol â’r prif gontract, a
(b)bod yr isddeiliad (“I”) yn credu nad yw D mwyach yn ystyried ei fod yn barti i’r prif gontract a’r contract isfeddiannaeth.
(2)Caiff I weithredu i ddod â’r prif gontract i ben yn unol â’r adran hon.
(3)Rhaid i I roi hysbysiad i D—
(a)yn datgan bod I yn credu nad yw D mwyach yn ystyried ei fod yn barti i’r prif gontract a’r contract isfeddiannaeth,
(b)yn ei gwneud yn ofynnol i D hysbysu I mewn ysgrifen cyn diwedd y cyfnod rhybuddio os yw’n ystyried ei fod yn barti i un o’r contractau hynny, neu i’r ddau ohonynt, ac
(c)yn hysbysu D y caniateir i’r prif gontract gael ei derfynu ar ôl y cyfnod rhybuddio ac y caniateir i’w hawliau a’i rwymedigaethau o dan y contract isfeddiannaeth gael eu trosglwyddo i landlord D.
(4)Rhaid i I roi copi o’r hysbysiad i landlord D.
(5)Yn ystod y cyfnod rhybuddio, rhaid i I wneud y cyfryw ymholiadau sy’n angenrheidiol i’w fodloni ei hun nad yw D mwyach yn ystyried ei fod yn barti i’r prif gontract a’r contract isfeddiannaeth.
(6)Ar ddiwedd y cyfnod rhybuddio caiff I, os yw wedi ei fodloni fel y disgrifir yn is-adran (5), wneud cais i’r llys am orchymyn—
(a)sy’n dod â’r prif gontract i ben, a
(b)bod hawliau a rhwymedigaethau D fel landlord o dan y contract isfeddiannaeth i’w trosglwyddo i landlord D yn unol ag adrannau 62 a 63.
(7)Ni chaiff y llys wrando ar gais I o dan is-adran (6) os yw I wedi methu â chydymffurfio â’r gofyniad yn is-adran (4); ond os yw’n ystyried bod hynny’n rhesymol caiff y llys hepgor y gofyniad hwnnw.
(8)Mae gan landlord D hawl i fod yn barti i achos ar gais a wneir gan I o dan is-adran (6).
(9)Os yw’r llys yn fodlon nad yw D yn ystyried ei fod yn barti i’r prif gontract a’r contract isfeddiannaeth, caiff wneud y gorchymyn y gwnaed cais amdano o dan is-adran (6); ac os yw’n gwneud hynny rhaid iddo bennu’r dyddiad y daw’r prif gontract i ben.
(10)Ond ni chaiff y llys wneud gorchymyn o dan is-adran (9)—
(a)os yw landlord D yn barti i’r achos,
(b)os yw landlord D yn haeru y byddai’r llys wedi gwneud gorchymyn adennill meddiant yn erbyn I, pe byddai D wedi gwneud cais am orchymyn o’r fath mewn hawliad meddiant a wnaed gan D yn erbyn I, ac
(c)os yw’r llys yn fodlon y byddai wedi gwneud y gorchymyn adennill meddiant yn erbyn I yn yr amgylchiadau hynny.
(11)Y cyfnod rhybuddio yw’r cyfnod o bedair wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir hysbysiad o dan is-adran (3) i D.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 66 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I2A. 66 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2