RHAN 3DARPARIAETHAU SY’N GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH
PENNOD 8DELIO
Contractau isfeddiannaeth
65Gorchymyn adennill meddiant estynedig yn erbyn isddeiliad
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys—
(a)
os yw deiliad y contract (“D”) o dan gontract meddiannaeth (“y prif gontract”) yn ymrwymo i gontract isfeddiannaeth yn unol â’r prif gontract, a
(b)
os yw landlord D yn gwneud hawliad meddiant yn erbyn D ar ôl i’r contract isfeddiannaeth gael ei wneud.
(2)
Yn yr achos ar yr hawliad yn erbyn D, caiff landlord D wneud cais am orchymyn adennill meddiant yn erbyn yr isddeiliad (“I”) (“gorchymyn adennill meddiant estynedig”); ond ni chaniateir gwneud cais o dan yr is-adran hon oni bai bod—
(a)
y gofynion a ddynodir yn is-adran (3) wedi eu bodloni, neu
(b)
y llys o’r farn ei bod yn rhesymol hepgor y gofynion hynny.
(3)
Mae’r gofynion fel a ganlyn—
(a)
rhaid i landlord D fod wedi rhoi F1hysbysiad yn unol ag adran 64(2), a
(b)
ar yr un pryd, rhaid i landlord D fod wedi rhoi hysbysiad i I—
(i)
o fwriad landlord D i wneud cais am orchymyn adennill meddiant estynedig yn yr achos ar yr hawliad yn erbyn D, a
(ii)
o hawl I i fod yn barti i’r achos ar yr hawliad yn erbyn D.
(4)
Pan ganiateir i landlord D wneud cais am orchymyn adennill meddiant estynedig yn erbyn I, mae gan I hawl i fod yn barti i’r achos ar yr hawliad meddiant yn erbyn D (ni waeth pa un a yw landlord D yn gwneud cais am orchymyn adennill meddiant estynedig yn yr achos ai peidio).
(5)
Ni chaiff y llys ystyried cais landlord D am orchymyn adennill meddiant estynedig onid yw wedi penderfynu gwneud gorchymyn adennill meddiant yn erbyn D.
(6)
Ni chaiff y llys wneud gorchymyn adennill meddiant estynedig yn erbyn I oni bai y byddai’r llys, pe byddai D wedi gwneud hawliad meddiant yn erbyn I, wedi gwneud gorchymyn adennill meddiant yn erbyn I.