65Gorchymyn adennill meddiant estynedig yn erbyn isddeiliadLL+C
(1)Mae’r adran hon yn gymwys—
(a)os yw deiliad y contract (“D”) o dan gontract meddiannaeth (“y prif gontract”) yn ymrwymo i gontract isfeddiannaeth yn unol â’r prif gontract, a
(b)os yw landlord D yn gwneud hawliad meddiant yn erbyn D ar ôl i’r contract isfeddiannaeth gael ei wneud.
(2)Yn yr achos ar yr hawliad yn erbyn D, caiff landlord D wneud cais am orchymyn adennill meddiant yn erbyn yr isddeiliad (“I”) (“gorchymyn adennill meddiant estynedig”); ond ni chaniateir gwneud cais o dan yr is-adran hon oni bai bod—
(a)y gofynion a ddynodir yn is-adran (3) wedi eu bodloni, neu
(b)y llys o’r farn ei bod yn rhesymol hepgor y gofynion hynny.
(3)Mae’r gofynion fel a ganlyn—
(a)rhaid i landlord D fod wedi rhoi [F1hysbysiad yn unol ag adran 64(2)], a
(b)ar yr un pryd, rhaid i landlord D fod wedi rhoi hysbysiad i I—
(i)o fwriad landlord D i wneud cais am orchymyn adennill meddiant estynedig yn yr achos ar yr hawliad yn erbyn D, a
(ii)o hawl I i fod yn barti i’r achos ar yr hawliad yn erbyn D.
(4)Pan ganiateir i landlord D wneud cais am orchymyn adennill meddiant estynedig yn erbyn I, mae gan I hawl i fod yn barti i’r achos ar yr hawliad meddiant yn erbyn D (ni waeth pa un a yw landlord D yn gwneud cais am orchymyn adennill meddiant estynedig yn yr achos ai peidio).
(5)Ni chaiff y llys ystyried cais landlord D am orchymyn adennill meddiant estynedig onid yw wedi penderfynu gwneud gorchymyn adennill meddiant yn erbyn D.
(6)Ni chaiff y llys wneud gorchymyn adennill meddiant estynedig yn erbyn I oni bai y byddai’r llys, pe byddai D wedi gwneud hawliad meddiant yn erbyn I, wedi gwneud gorchymyn adennill meddiant yn erbyn I.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 65(3)(a) wedi eu hamnewid (7.6.2021) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), a. 19(3), Atod. 6 para. 8
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 65 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I2A. 65 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2
