63Y prif gontract yn dod i ben: darpariaeth bellachLL+C
(1)Nid oes dim yn adran 62 yn effeithio ar unrhyw hawl sydd gan y prif landlord o dan adran 61(6) (y pŵer i drin contract isfeddiannaeth fel contract safonol cyfnodol).
(2)Nid oes dim yn adran 62 yn gwneud y prif landlord yn atebol i’r isddeiliad mewn perthynas ag unrhyw dor contract isfeddiannaeth a gyflawnwyd gan ddeiliad y contract.
(3)Nid oes dim yn adran 62 yn gwneud yr isddeiliad yn atebol i’r prif landlord mewn perthynas ag unrhyw dor contract isfeddiannaeth gan yr isddeiliad a ddigwyddodd cyn i’r prif gontract ddod i ben.
(4)Ond gall y prif landlord fod yn atebol i’r isddeiliad, neu’r isddeiliad i’r prif landlord, i’r graddau y mae unrhyw dor contract isfeddiannaeth yn parhau ar ôl i’r prif gontract ddod i ben.
(5)Nid yw is-adrannau (3) a (4) yn effeithio ar unrhyw bŵer y mae’r contract isfeddiannaeth yn ei roi i’r prif landlord.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 63 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I2A. 63 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2