RHAN 3DARPARIAETHAU SY’N GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH
PENNOD 8DELIO
Contractau isfeddiannaeth
62Y prif gontract yn dod i ben
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys (yn ddarostyngedig i is-adran (6))—
(a)
os yw deiliad y contract o dan gontract meddiannaeth (“y prif gontract”) yn ymrwymo i gontract isfeddiannaeth yn unol â’r prif gontract, a
(b)
os yw’r prif gontract yn dod i ben ar ôl dyddiad meddiannu’r prif gontract.
(2)
Os yw’r contract isfeddiannaeth yn dal i fodoli yn union cyn i’r prif gontract ddod i ben—
(a)
mae’r contract isfeddiannaeth yn parhau (fel contract meddiannaeth nad yw’n gontract isfeddiannaeth), a
(b)
mae hawliau a rhwymedigaethau deiliad y contract fel landlord o dan y contract isfeddiannaeth yn cael eu trosglwyddo i’r prif landlord.
(3)
Os yw’r isddeiliad yn gofyn i’r prif landlord am ddatganiad ysgrifenedig pellach o’r contract o dan adran 31(4), (ac nad yw is-adran (5) o’r adran hon yn gymwys), mae’r cyfeiriadau at ddeiliad y contract yn adrannau 34(4) a 35(5) (methiant i ddarparu datganiad) yn cynnwys y person a oedd yn ddeiliad y contract o dan y prif gontract.
(4)
Mae is-adran (5) yn gymwys pan fo—
(a)
prif landlord wedi rhoi hysbysiad yn unol ag adran 61(7) a (8), mewn perthynas â chontract, a
(b)
y contract yn parhau oherwydd is-adran (2)(a) o’r adran hon.
(5)
Pan fo’r is-adran hon yn gymwys, at ddibenion adran 31(1) (datganiad ysgrifenedig o’r contract) mae dyddiad meddiannu’r contract i’w drin—
(a)
os rhoddir yr hysbysiad a grybwyllir yn adran 61(7) i’r isddeiliad cyn diwedd y prif gontract, fel y diwrnod y mae’r prif gontract yn dod i ben;
(b)
os rhoddir yr hysbysiad i’r isddeiliad ar y diwrnod y mae’r prif gontract yn dod i ben neu ar ôl hynny, fel y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad.
(6)
Nid yw’r adran hon yn gymwys os yw’r prif gontract yn gontract safonol cyfnod penodol sy’n dod i ben ar ddiwedd y cyfnod penodol.