Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

58Delio, a chydsyniad y landlordLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Pan na fo teler mewn contract meddiannaeth yn caniatáu i ddeiliad y contract neu gyd-ddeiliad y contract ddelio ag unrhyw beth a grybwyllir yn adran 57(1) neu (2) oni chafwyd cydsyniad y landlord, mae’r hyn sy’n rhesymol at ddibenion adran 84 (cydsyniad landlord) i’w benderfynu gan roi sylw i Atodlen 6.

(2)Nid yw adran 19(1) o Ddeddf Landlord a Thenant 1927 (p. 36) (effaith cyfamodau i beidio ag aseinio etc. heb gydsyniad) yn gymwys i denantiaeth sy’n gontract meddiannaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 58 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2A. 58 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2