RHAN 3DARPARIAETHAU SY’N GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH

PENNOD 8DELIO

Hawliau i ddelio â chontract meddiannaeth

57Dulliau o ddelio a ganiateir

(1)

Ni chaiff deiliad y contract o dan gontract meddiannaeth ddelio â’r contract meddiannaeth, yr annedd nac unrhyw ran o’r annedd ac eithrio—

(a)

mewn ffordd a ganiateir gan y contract, neu

(b)

yn unol â gorchymyn eiddo teuluol (gweler adran 251).

(2)

Ni chaiff cyd-ddeiliad contract ddelio â’i hawliau a’i rwymedigaethau o dan y contract meddiannaeth (nac â’r contract meddiannaeth, yr annedd nac unrhyw ran o’r annedd), ac eithrio—

(a)

mewn ffordd a ganiateir gan y contract, neu

(b)

yn unol â gorchymyn eiddo teuluol.

(3)

Os yw deiliad y contract yn gwneud unrhyw beth sy’n torri is-adran (1), neu os yw cyd-ddeiliad contract yn gwneud unrhyw beth sy’n torri is-adran (2)—

(a)

nid yw’r trafodiad yn rhwymo’r landlord, a

(b)

mae deiliad y contract neu gyd-ddeiliad y contract yn torri’r contract (er nad yw’r trafodiad yn rhwymo’r landlord).

(4)

Mae “delio” yn cynnwys—

(a)

creu tenantiaeth, neu greu trwydded sy’n rhoi’r hawl i feddiannu’r annedd;

(b)

trosglwyddo;

(c)

morgeisio neu arwystlo mewn ffordd arall.

(5)

Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth.