RHAN 3DARPARIAETHAU SY’N GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH
PENNOD 7YMDDYGIAD GWRTHGYMDEITHASOL AC YMDDYGIAD GWAHARDDEDIG ARALL
55Ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad gwaharddedig arall
1
Rhaid i ddeiliad y contract o dan gontract meddiannaeth beidio ag ymddwyn na bygwth ymddwyn mewn modd a allai beri niwsans neu annifyrrwch i berson sydd â hawl (o ba bynnag ddisgrifiad)—
a
i fyw yn yr annedd sy’n ddarostyngedig i’r contract meddiannaeth, neu
b
i fyw mewn annedd neu lety arall yng nghyffiniau’r annedd sy’n ddarostyngedig i’r contract meddiannaeth.
2
Rhaid i ddeiliad y contract beidio ag ymddwyn na bygwth ymddwyn mewn modd a allai beri niwsans neu annifyrrwch i berson sy’n cymryd rhan mewn gweithgarwch cyfreithlon—
a
yn yr annedd sy’n ddarostyngedig i’r contract meddiannaeth, neu
b
yng nghyffiniau’r annedd honno.
3
Rhaid i ddeiliad y contract beidio ag ymddwyn na bygwth ymddwyn mewn modd—
a
a allai beri niwsans neu annifyrrwch—
i
i’r landlord o dan y contract meddiannaeth, neu
ii
i berson (boed wedi ei gyflogi gan y landlord ai peidio) sy’n gweithredu mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau’r landlord o ran rheoli tai, a
b
sy’n ymwneud yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol â swyddogaethau’r landlord o ran rheoli tai, neu’n effeithio arnynt.
4
Ni chaiff deiliad y contract ddefnyddio na bygwth defnyddio’r annedd sy’n ddarostyngedig i’r contract meddiannaeth, gan gynnwys unrhyw rannau cyffredin ac unrhyw ran arall o adeilad sy’n ffurfio’r annedd, at ddibenion troseddol.
5
Rhaid i ddeiliad y contract beidio, drwy unrhyw weithred neu anwaith—
a
caniatáu, cymell nac annog unrhyw berson sy’n byw yn yr annedd neu’n ymweld â’r annedd, i ymddwyn fel y crybwyllir yn is-adrannau (1) i (3), na
b
caniatáu, cymell nac annog unrhyw berson i ymddwyn fel y crybwyllir yn is-adran (4).
6
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth; mae adran 20 yn darparu—
a
bod rhaid ymgorffori’r adran hon, a
b
na chaniateir ymgorffori’r adran hon ynghyd ag addasiadau iddi.