RHAN 3DARPARIAETHAU SY’N GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH

F1Pennod 6AGwahardd gwahaniaethu yn erbyn pobl sydd â phlant neu sy’n hawlyddion budd-daliadau

54BYr hawl i hawlio budd-daliadau

(1)

Ni chaniateir i’r landlord o dan gontract meddiannaeth wahardd deiliad y contract rhag bod yn hawlydd budd-daliadau o fewn yr ystyr a roddir gan adran 8J o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd, Gwahaniaethu etc.) (Cymru) 2019.

(2)

Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth, ac eithrio pan fo’r landlord neu uwchlandlord wedi ei yswirio o dan gontract yswiriant—

(a)

nad yw adran 8H o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd, Gwahaniaethu etc.) (Cymru) 2019 yn gymwys iddo, a

(b)

sy’n cynnwys teler sy’n gwneud darpariaeth (sut bynnag y’i mynegir) yn ei gwneud yn ofynnol i’r sawl sydd wedi ei yswirio wahardd deiliad y contract rhag hawlio taliadau a grybwyllir yn is-adran (1).