RHAN 3DARPARIAETHAU SY’N GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH
PENNOD 6YR HAWL I FEDDIANNU HEB YMYRRAETH
54Yr hawl i feddiannu heb ymyrraeth gan y landlord
(1)
Ni chaiff y landlord o dan gontract meddiannaeth, drwy unrhyw weithred neu anwaith, ymyrryd â hawl deiliad y contract i feddiannu’r annedd.
(2)
Nid yw’r landlord yn ymyrryd â hawl deiliad y contract i feddiannu’r annedd drwy arfer hawliau’r landlord o dan y contract yn rhesymol.
(3)
Nid yw’r landlord yn ymyrryd â hawl deiliad y contract i feddiannu’r annedd oherwydd methiant i gydymffurfio â rhwymedigaethau atgyweirio (o fewn ystyr adran 100(2)).
(4)
Mae’r landlord i’w drin fel pe bai wedi ymyrryd â hawl deiliad y contract os yw person—
(a)
sy’n gweithredu ar ran y landlord, neu
(b)
sydd â buddiant yn yr annedd, neu ran ohoni, sy’n rhagori ar fuddiant y landlord,
yn ymyrryd â hawl deiliad y contract drwy unrhyw weithred neu anwaith cyfreithlon.
(5)
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth.