RHAN 3DARPARIAETHAU SY’N GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH
PENNOD 5CYD-DDEILIAID CONTRACT A CHYD-LANDLORDIAID
Cyd-landlordiaid
53Cyd-landlordiaid
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys os yw dau berson ar y cyd, neu ragor, yn landlord o dan gontract meddiannaeth.
(2)
Mae pob un ohonynt yn llwyr atebol i ddeiliaid y contract am gyflawni pob rhwymedigaeth sy’n ddyledus i ddeiliad y contract o dan y contract.
(3)
Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at y landlord yn gyfeiriadau at y personau sydd, ar y cyd, yn landlord.