53Cyd-landlordiaidLL+C
This section has no associated Explanatory Notes
(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw dau berson ar y cyd, neu ragor, yn landlord o dan gontract meddiannaeth.
(2)Mae pob un ohonynt yn llwyr atebol i ddeiliaid y contract am gyflawni pob rhwymedigaeth sy’n ddyledus i ddeiliad y contract o dan y contract.
(3)Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at y landlord yn gyfeiriadau at y personau sydd, ar y cyd, yn landlord.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 53 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I2A. 53 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2