RHAN 3DARPARIAETHAU SY’N GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH

PENNOD 5CYD-DDEILIAID CONTRACT A CHYD-LANDLORDIAID

Cyd-ddeiliaid contract: goroesi

52Cyd-ddeiliad contract yn peidio â bod yn barti i’r contract meddiannaeth

(1)

Os yw cyd-ddeiliad contract o dan gontract meddiannaeth yn marw, neu’n peidio â bod yn barti i’r contract am ryw reswm arall, o’r adeg y mae’n peidio â bod yn barti—

(a)

mae gan weddill cyd-ddeiliaid y contract hawl lwyr i’r holl hawliau o dan y contract, a

(b)

mae gweddill cyd-ddeiliaid y contract yn llwyr atebol am gyflawni pob rhwymedigaeth sy’n ddyledus i’r landlord o dan y contract.

(2)

Nid oes hawl gan gyd-ddeiliad y contract i unrhyw hawl ac nid yw’n atebol am unrhyw rwymedigaeth o ran y cyfnod ar ôl iddo beidio â bod yn barti i’r contract.

(3)

Nid oes dim yn is-adran (1) na (2) yn dileu unrhyw hawl nac yn ildio unrhyw atebolrwydd ar ran cyd-ddeiliad y contract sy’n cronni cyn iddo beidio â bod yn barti i’r contract.

(4)

Nid yw’r adran hon yn gymwys pan fo cyd-ddeiliad contract yn peidio â bod yn barti i’r contract am fod ei hawliau a’i rwymedigaethau o dan y contract yn cael eu trosglwyddo yn unol â’r contract.

(5)

Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth; mae adran 20 yn darparu—

(a)

bod rhaid ymgorffori’r adran hon, a

(b)

na chaniateir ymgorffori’r adran hon ynghyd ag addasiadau iddi.