xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Ni ellir ychwanegu cyd-ddeiliad contract o dan gontract meddiannaeth ond drwy ddogfen wedi ei llofnodi neu ei chyflawni gan bob un o’r partïon i’r trafodiad.
(2)Os yw’r contract yn ei gwneud yn ofynnol cael cydsyniad y landlord i’r ychwanegiad, rhaid i’r landlord lofnodi neu gyflawni’r ddogfen hefyd.
(3)Ond nid yw is-adran (2) yn gymwys os yw’r landlord yn cael ei drin fel pe bai wedi cydsynio o dan adran 84(6), (8) neu (10).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 51 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I2A. 51 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2