RHAN 3DARPARIAETHAU SY’N GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH

PENNOD 5CYD-DDEILIAID CONTRACT A CHYD-LANDLORDIAID

Cyd-ddeiliaid contract

51Ychwanegu cyd-ddeiliad contract: materion ffurfiol

(1)

Ni ellir ychwanegu cyd-ddeiliad contract o dan gontract meddiannaeth ond drwy ddogfen wedi ei llofnodi neu ei chyflawni gan bob un o’r partïon i’r trafodiad.

(2)

Os yw’r contract yn ei gwneud yn ofynnol cael cydsyniad y landlord i’r ychwanegiad, rhaid i’r landlord lofnodi neu gyflawni’r ddogfen hefyd.

(3)

Ond nid yw is-adran (2) yn gymwys os yw’r landlord yn cael ei drin fel pe bai wedi cydsynio o dan adran 84(6), (8) neu (10).