RHAN 3DARPARIAETHAU SY’N GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH
PENNOD 5CYD-DDEILIAID CONTRACT A CHYD-LANDLORDIAID
Cyd-ddeiliaid contract
49Ychwanegu cyd-ddeiliad contract
(1)
Caiff deiliad y contract o dan gontract meddiannaeth a pherson arall, gyda chaniatâd y landlord, wneud y person arall hwnnw yn gyd-ddeiliad contract o dan y contract.
(2)
Os gwneir person yn gyd-ddeiliad contract o dan yr adran hon bydd ganddo’r hawl i’r holl hawliau, a bydd yn ddarostyngedig i holl rwymedigaethau deiliad contract o dan y contract o’r diwrnod y daw’n gyd-ddeiliad contract.
(3)
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth.