RHAN 3DARPARIAETHAU SY’N GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH

PENNOD 4BLAENDALIADAU A CHYNLLUNIAU BLAENDAL

Cynlluniau blaendal

47Cynlluniau blaendal: dehongli

(1)

Yn y Ddeddf hon—

ystyr “blaendal” (“deposit”) yw arian sy’n cael ei dalu fel sicrwydd;

ystyr “cynllun blaendal awdurdodedig” (“authorised deposit scheme”) yw cynllun blaendal sydd mewn grym yn unol â threfniadau o dan baragraff 1 o Atodlen 5 (ac mae i “cynllun blaendal” (“deposit scheme”) yr ystyr a roddir gan is-baragraff (2) o’r paragraff hwnnw);

ystyr “gofynion cychwynnol” (“initial requirements”), mewn perthynas â chynllun blaendal awdurdodedig, yw gofynion y cynllun y mae’n rhaid i’r landlord gydymffurfio â hwy pan delir blaendal;

ystyr “sicrwydd” (“security”) yw sicrwydd ar gyfer cyflawni rhwymedigaethau deiliad y contract a chyflawni atebolrwydd deiliad y contract.

(2)

Yn y Ddeddf hon, mae cyfeiriadau at flaendal, mewn perthynas ag adeg ar ôl i flaendal gael ei dalu, yn gyfeiriadau at swm sy’n cynrychioli’r blaendal.