Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

46Cynlluniau blaendal: darpariaeth bellachLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae Atodlen 5 yn cynnwys darpariaeth bellach ynghylch cynlluniau blaendal.

(2)[F1Mae paragraff 4 o Atodlen 9A yn gwneud darpariaeth yn ymwneud â chontractau safonol cyfnodol a chontractau safonol cyfnod penodol sy’n ymgorffori adran 186 neu sy’n cynnwys cymal terfynu’r landlord, sy’n atal landlord rhag rhoi hysbysiad (o dan adran 173 neu 186 neu o dan gymal terfynu’r landlord)] sy’n ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad contract ildio meddiant os nad yw’r landlord wedi cydymffurfio â gofynion penodol yn ymwneud â thalu sicrwydd neu’n ymwneud â chynlluniau blaendal.

Diwygiadau Testunol

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 46 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2A. 46 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2