RHAN 3DARPARIAETHAU SY’N GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH
PENNOD 4BLAENDALIADAU A CHYNLLUNIAU BLAENDAL
Cynlluniau blaendal
45Gofyniad i ddefnyddio cynllun blaendal
(1)
Os yw deiliad y contract o dan gontract meddiannaeth yn talu blaendal (neu os yw person arall yn talu blaendal ar ei ran), rhaid ymdrin â’r blaendal yn unol â chynllun blaendal awdurdodedig.
(2)
Cyn diwedd y cyfnod o 30 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r blaendal yn cael ei dalu, rhaid i’r landlord—
(a)
cydymffurfio â gofynion cychwynnol cynllun blaendal awdurdodedig, a
(b)
rhoi’r wybodaeth ofynnol i ddeiliaid y contract (ac i unrhyw berson sydd wedi talu’r blaendal ar ei ran).
(3)
Y cyfryw wybodaeth a gaiff ei rhagnodi yw’r wybodaeth ofynnol, sy’n ymwneud ag—
(a)
y cynllun blaendal awdurdodedig sy’n gymwys,
(b)
cydymffurfiaeth y landlord â gofynion cychwynnol y cynllun, ac
(c)
gweithrediad y Bennod hon, gan gynnwys hawliau deiliad y contract (a hawliau unrhyw berson sydd wedi talu’r blaendal ar ei ran) mewn perthynas â’r blaendal.
(4)
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth; mae adran 20 yn darparu—
(a)
bod rhaid ymgorffori’r adran hon, a
(b)
na chaniateir ymgorffori’r adran hon ynghyd ag addasiadau iddi.