Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

45Gofyniad i ddefnyddio cynllun blaendalLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Os yw deiliad y contract o dan gontract meddiannaeth yn talu blaendal (neu os yw person arall yn talu blaendal ar ei ran), rhaid ymdrin â’r blaendal yn unol â chynllun blaendal awdurdodedig.

(2)Cyn diwedd y cyfnod o 30 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r blaendal yn cael ei dalu, rhaid i’r landlord—

(a)cydymffurfio â gofynion cychwynnol cynllun blaendal awdurdodedig, a

(b)rhoi’r wybodaeth ofynnol i ddeiliaid y contract (ac i unrhyw berson sydd wedi talu’r blaendal ar ei ran).

(3)Y cyfryw wybodaeth a gaiff ei rhagnodi yw’r wybodaeth ofynnol, sy’n ymwneud ag—

(a)y cynllun blaendal awdurdodedig sy’n gymwys,

(b)cydymffurfiaeth y landlord â gofynion cychwynnol y cynllun, ac

(c)gweithrediad y Bennod hon, gan gynnwys hawliau deiliad y contract (a hawliau unrhyw berson sydd wedi talu’r blaendal ar ei ran) mewn perthynas â’r blaendal.

(4)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth; mae adran 20 yn darparu—

(a)bod rhaid ymgorffori’r adran hon, a

(b)na chaniateir ymgorffori’r adran hon ynghyd ag addasiadau iddi.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 45 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2A. 45(1)(2)(4) mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

I3A. 45(3) mewn grym ar 5.8.2016 at ddibenion penodedig gan O.S. 2016/813, ergl. 2(a), Atod. Rhn. 1

I4A. 45(3) mewn grym ar 1.12.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2022/906, ergl. 2