45Gofyniad i ddefnyddio cynllun blaendalLL+C
(1)Os yw deiliad y contract o dan gontract meddiannaeth yn talu blaendal (neu os yw person arall yn talu blaendal ar ei ran), rhaid ymdrin â’r blaendal yn unol â chynllun blaendal awdurdodedig.
(2)Cyn diwedd y cyfnod o 30 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r blaendal yn cael ei dalu, rhaid i’r landlord—
(a)cydymffurfio â gofynion cychwynnol cynllun blaendal awdurdodedig, a
(b)rhoi’r wybodaeth ofynnol i ddeiliaid y contract (ac i unrhyw berson sydd wedi talu’r blaendal ar ei ran).
(3)Y cyfryw wybodaeth a gaiff ei rhagnodi yw’r wybodaeth ofynnol, sy’n ymwneud ag—
(a)y cynllun blaendal awdurdodedig sy’n gymwys,
(b)cydymffurfiaeth y landlord â gofynion cychwynnol y cynllun, ac
(c)gweithrediad y Bennod hon, gan gynnwys hawliau deiliad y contract (a hawliau unrhyw berson sydd wedi talu’r blaendal ar ei ran) mewn perthynas â’r blaendal.
(4)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth; mae adran 20 yn darparu—
(a)bod rhaid ymgorffori’r adran hon, a
(b)na chaniateir ymgorffori’r adran hon ynghyd ag addasiadau iddi.
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1A. 45 addaswyd (1.9.2019) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019 (anaw 2), a. 30(2), Atod. 2 para. 6 (ynghyd ag a. 29); O.S. 2019/1150, ergl. 2(d)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 45 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I2A. 45(3) mewn grym ar 5.8.2016 at ddibenion penodedig gan O.S. 2016/813, ergl. 2(a), Atod. Rhn. 1
