Valid from 01/12/2022
42Pryd y gellir gorfodi telerau contract meddiannaethLL+C
This section has no associated Explanatory Notes
(1)Ni ellir gorfodi unrhyw un o delerau contract meddiannaeth yn erbyn deiliad y contract cyn y cynharaf o’r canlynol—
(a)y landlord yn rhoi datganiad ysgrifenedig o’r contract o dan adran 31(1) i ddeiliad y contract, a
(b)y dyddiad meddiannu.
(2)Os yw deiliad y contract o dan gontract meddiannaeth yn newid, ni ellir gorfodi unrhyw un o delerau’r contract meddiannaeth yn erbyn deiliad newydd y contract cyn y cynharaf o’r canlynol—
(a)y landlord yn rhoi datganiad ysgrifenedig o’r contract o dan adran 31(2) i ddeiliad newydd y contract, a
(b)y diwrnod y daw deiliad newydd y contract â’r hawl i feddiannu’r annedd.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 42 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)