RHAN 3DARPARIAETHAU SY’N GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH

PENNOD 3PRYD Y GELLIR GORFODI CONTRACT

42Pryd y gellir gorfodi telerau contract meddiannaeth

(1)

Ni ellir gorfodi unrhyw un o delerau contract meddiannaeth yn erbyn deiliad y contract cyn y cynharaf o’r canlynol—

(a)

y landlord yn rhoi datganiad ysgrifenedig o’r contract o dan adran 31(1) i ddeiliad y contract, a

(b)

y dyddiad meddiannu.

(2)

Os yw deiliad y contract o dan gontract meddiannaeth yn newid, ni ellir gorfodi unrhyw un o delerau’r contract meddiannaeth yn erbyn deiliad newydd y contract cyn y cynharaf o’r canlynol—

(a)

y landlord yn rhoi datganiad ysgrifenedig o’r contract o dan adran 31(2) i ddeiliad newydd y contract, a

(b)

y diwrnod y daw deiliad newydd y contract â’r hawl i feddiannu’r annedd.