xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3LL+CDARPARIAETHAU SY’N GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH

PENNOD 2LL+CDARPARU GWYBODAETH

Y landlord yn darparu gwybodaeth am y landlordLL+C

40Digolledu am dorri amodau adran 39LL+C

(1)Os yw’r landlord wedi methu â chydymffurfio â rhwymedigaeth o dan adran 39, mae’r landlord yn atebol i dalu tâl digolledu i ddeiliad y contract o dan adran 87.

(2)Mae’r tâl digolledu yn daladwy ar gyfer y dyddiad perthnasol a phob diwrnod ar ôl y dyddiad perthnasol—

(a)hyd y diwrnod y mae’r landlord yn rhoi’r hysbysiad dan sylw, neu

(b)os yw’n gynharach, hyd ddiwrnod olaf y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r dyddiad perthnasol.

(3)Mae llog yn daladwy ar y tâl digolledu os yw’r landlord wedi methu â rhoi’r hysbysiad i ddeiliad y contract ar y diwrnod y cyfeirir ato yn is-adran (2)(b) neu cyn hynny.

(4)Mae’r llog yn dechrau cronni ar y diwrnod y cyfeirir ato yn is-adran (2)(b), ar y raddfa sy’n bodoli o dan adran 6 o Ddeddf Talu Dyledion Masnachol yn Hwyr (Llog) 1998 (p. 20) ar ddiwedd y diwrnod hwnnw.

(5)Y dyddiad perthnasol yw diwrnod cyntaf y cyfnod yr oedd yn ofynnol i’r landlord roi’r hysbysiad cyn iddo ddod i ben.

(6)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 40 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2A. 40 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2