RHAN 3DARPARIAETHAU SY’N GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH
PENNOD 2DARPARU GWYBODAETH
Y landlord yn darparu gwybodaeth am y landlord
40Digolledu am dorri amodau adran 39
(1)
Os yw’r landlord wedi methu â chydymffurfio â rhwymedigaeth o dan adran 39, mae’r landlord yn atebol i dalu tâl digolledu i ddeiliad y contract o dan adran 87.
(2)
Mae’r tâl digolledu yn daladwy ar gyfer y dyddiad perthnasol a phob diwrnod ar ôl y dyddiad perthnasol—
(a)
hyd y diwrnod y mae’r landlord yn rhoi’r hysbysiad dan sylw, neu
(b)
os yw’n gynharach, hyd ddiwrnod olaf y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r dyddiad perthnasol.
(3)
Mae llog yn daladwy ar y tâl digolledu os yw’r landlord wedi methu â rhoi’r hysbysiad i ddeiliad y contract ar y diwrnod y cyfeirir ato yn is-adran (2)(b) neu cyn hynny.
(4)
Mae’r llog yn dechrau cronni ar y diwrnod y cyfeirir ato yn is-adran (2)(b), ar y raddfa sy’n bodoli o dan adran 6 o Ddeddf Talu Dyledion Masnachol yn Hwyr (Llog) 1998 (p. 20) ar ddiwedd y diwrnod hwnnw.
(5)
Y dyddiad perthnasol yw diwrnod cyntaf y cyfnod yr oedd yn ofynnol i’r landlord roi’r hysbysiad cyn iddo ddod i ben.
(6)
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth.