Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

4Sut i wybod pa ddarpariaethau yn y Ddeddf hon sy’n ddarpariaethau sylfaenolLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae pob un o ddarpariaethau’r Ddeddf hon sy’n ddarpariaeth sylfaenol—

(a)yn pennu ei bod yn ddarpariaeth sylfaenol, a

(b)yn pennu’r contractau meddiannaeth y mae’n gymwys iddynt.

(2)Mae Atodlen 1 yn cynnwys tair Rhan, sy’n nodi’r darpariaethau sylfaenol yn y Ddeddf hon fel a ganlyn—

(a)mae Rhan 1 yn nodi’r darpariaethau sylfaenol sy’n gymwys i gontractau diogel,

(b)mae Rhan 2 yn nodi’r darpariaethau sylfaenol sy’n gymwys i gontractau safonol cyfnodol, ac

(c)mae Rhan 3 yn nodi’r darpariaethau sylfaenol sy’n gymwys i gontractau safonol cyfnod penodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2A. 4 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2