RHAN 1TROSOLWG O’R DDEDDF

Cyflwyniad i Rannau 1 a 2 ac i brif gysyniadau’r Ddeddf hon

4Sut i wybod pa ddarpariaethau yn y Ddeddf hon sy’n ddarpariaethau sylfaenol

(1)

Mae pob un o ddarpariaethau’r Ddeddf hon sy’n ddarpariaeth sylfaenol—

(a)

yn pennu ei bod yn ddarpariaeth sylfaenol, a

(b)

yn pennu’r contractau meddiannaeth y mae’n gymwys iddynt.

(2)

Mae Atodlen 1 yn cynnwys tair Rhan, sy’n nodi’r darpariaethau sylfaenol yn y Ddeddf hon fel a ganlyn—

(a)

mae Rhan 1 yn nodi’r darpariaethau sylfaenol sy’n gymwys i gontractau diogel,

(b)

mae Rhan 2 yn nodi’r darpariaethau sylfaenol sy’n gymwys i gontractau safonol cyfnodol, ac

(c)

mae Rhan 3 yn nodi’r darpariaethau sylfaenol sy’n gymwys i gontractau safonol cyfnod penodol.