RHAN 3DARPARIAETHAU SY’N GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH
PENNOD 2DARPARU GWYBODAETH
Y landlord yn darparu gwybodaeth am y landlord
39Y landlord yn darparu gwybodaeth am y landlord
(1)
Rhaid i’r landlord o dan gontract meddiannaeth hysbysu deiliad y contract o gyfeiriad y caiff deiliad y contract anfon dogfennau a fwriedir ar gyfer y landlord iddo, a hynny cyn diwedd y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau â dyddiad meddiannu’r contract.
(2)
Os yw’r landlord yn newid, rhaid i’r landlord newydd roi hysbysiad i ddeiliad y contract bod y landlord wedi newid a’i hysbysu o gyfeiriad y gall deiliad y contract anfon dogfennau a fwriedir ar gyfer y landlord newydd iddo, a hynny cyn diwedd y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r landlord yn newid.
(3)
Os yw’r cyfeiriad y gall deiliad y contract anfon dogfennau a fwriedir ar gyfer y landlord iddo yn newid, rhaid i’r landlord hysbysu deiliad y contract o’r cyfeiriad newydd, a hynny cyn diwedd y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r cyfeiriad yn newid.
F1(4)
Mae paragraff 3 o Atodlen 9A yn gwneud darpariaeth yn ymwneud â chontractau safonol cyfnodol, a chontractau safonol cyfnod penodol sy’n ymgorffori adran 186 neu sy’n cynnwys cymal terfynu’r landlord, sy’n atal landlord rhag rhoi hysbysiad (o dan adran 173 neu 186 neu o dan gymal terfynu’r landlord) sy’n ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad contract ildio meddiant, os nad yw’r landlord wedi darparu hysbysiad sy’n ofynnol o dan yr adran hon.
(5)
Mae is-adrannau (1) i (3) o’r adran hon yn ddarpariaethau sylfaenol sydd wedi eu hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth.