Valid from 01/12/2022
39Y landlord yn darparu gwybodaeth am y landlordLL+C
(1)Rhaid i’r landlord o dan gontract meddiannaeth hysbysu deiliad y contract o gyfeiriad y caiff deiliad y contract anfon dogfennau a fwriedir ar gyfer y landlord iddo, a hynny cyn diwedd y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau â dyddiad meddiannu’r contract.
(2)Os yw’r landlord yn newid, rhaid i’r landlord newydd roi hysbysiad i ddeiliad y contract bod y landlord wedi newid a’i hysbysu o gyfeiriad y gall deiliad y contract anfon dogfennau a fwriedir ar gyfer y landlord newydd iddo, a hynny cyn diwedd y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r landlord yn newid.
(3)Os yw’r cyfeiriad y gall deiliad y contract anfon dogfennau a fwriedir ar gyfer y landlord iddo yn newid, rhaid i’r landlord hysbysu deiliad y contract o’r cyfeiriad newydd, a hynny cyn diwedd y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r cyfeiriad yn newid.
[F1(4)Mae paragraff 3 o Atodlen 9A yn gwneud darpariaeth yn ymwneud â chontractau safonol cyfnodol, a chontractau safonol cyfnod penodol sy’n ymgorffori adran 186 neu sy’n cynnwys cymal terfynu’r landlord, sy’n atal landlord rhag rhoi hysbysiad (o dan adran 173 neu 186 neu o dan gymal terfynu’r landlord) sy’n ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad contract ildio meddiant, os nad yw’r landlord wedi darparu hysbysiad sy’n ofynnol o dan yr adran hon.
(5)Mae is-adrannau (1) i (3) o’r adran hon yn ddarpariaethau sylfaenol sydd wedi eu hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth.]
Diwygiadau Testunol
F1A. 39(4)(5) wedi ei amnewid ar gyfer a. 39(4) (7.6.2021) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), a. 19(3), Atod. 6 para. 6
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 39 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)