RHAN 3DARPARIAETHAU SY’N GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH

PENNOD 2DARPARU GWYBODAETH

Datganiad ysgrifenedig o’r contract

38Datganiad anghywir: cais landlord i’r llys am ddatganiad bod contract yn gontract safonol

(1)

Mae’r adran hon yn gymwys os yw’r landlord o dan gontract meddiannaeth yn landlord cymunedol, ac os yw wedi rhoi i ddeiliad y contract—

(a)

hysbysiad o dan adran 13 (hysbysiad o gontract safonol), ond

(b)

datganiad ysgrifenedig o’r contract sy’n gyson â chontract diogel.

(2)

Caiff y landlord wneud cais i’r llys am ddatganiad bod y contract yn gontract safonol.

(3)

Ni chaiff y llys wneud y datganiad os yw’n fodlon mai bwriad y landlord, ar yr adeg y rhoddodd y datganiad ysgrifenedig i ddeiliad y contract, oedd y dylai’r contract fod yn gontract diogel.

(4)

Os yw’r llys yn gwneud y datganiad mae pob darpariaeth sylfaenol ac atodol sy’n gymwys i’r contract wedi ei hymgorffori fel un o delerau’r contract heb ei haddasu, oni bai bod deiliad y contract yn honni nad oedd wedi ei hymgorffori neu ei bod wedi ei hymgorffori ynghyd ag addasiadau iddi.

(5)

Os yw deiliad y contract yn gwneud honiad o fath a grybwyllir yn is-adran (4), rhaid i’r llys ddyfarnu ar yr honiad hwnnw.

(6)

Caiff y llys—

(a)

cysylltu datganiad ysgrifenedig o’r contract meddiannaeth i’w ddatganiad, neu

(b)

gorchymyn i’r landlord roi datganiad ysgrifenedig wedi ei gywiro o’r contract i ddeiliad y contract.