Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

37Datganiad anghywir: cais deiliad y contract i’r llysLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff deiliad y contract o dan gontract meddiannaeth wneud cais i’r llys am ddatganiad bod datganiad ysgrifenedig o’r contract—

(a)yn nodi un neu ragor o delerau’r contract yn anghywir neu’n nodi teler nad oes iddo unrhyw effaith,

(b)yn datgan yn anghywir nad yw darpariaeth sylfaenol sy’n gymwys i’r contract wedi ei hymgorffori fel un o delerau’r contract oherwydd adran 20(1) neu 21(2),

(c)yn datgan yn anghywir nad yw darpariaeth atodol sy’n gymwys i’r contract wedi ei hymgorffori fel un o delerau’r contract oherwydd adran 21(2), 24(1) neu 25(2), neu

(d)yn nodi teler nad yw’n un o delerau’r contract.

(2)Ond nid yw datganiad ysgrifenedig yn anghywir ond am nad yw’n nodi teler a amrywiwyd yn unol â’r contract neu drwy neu o ganlyniad i ddeddfiad, os rhoddwyd—

(a)datganiad ysgrifenedig o’r teler a amrywiwyd yn unol ag adran 109, 128 neu 136, neu

(b)hysbysiad o’r amrywiad yn unol ag adran 104, 105(2) i (4) neu 107(1)(b) a (2) i (6) (amrywio contractau diogel) neu adran 123 [F1neu 124(2) i (4)] (amrywio contractau safonol cyfnodol),

oni bai bod y datganiad wedi ei roi o dan adran 31(2) neu (4) ar ôl i unrhyw amrywiad o’r fath i deler gael effaith.

(3)Ni chaiff deiliad y contract wneud cais i’r llys o dan is-adran (1) cyn diwedd y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau—

(a)os oedd yn ofynnol i’r landlord roi datganiad ysgrifenedig o dan adran 31(1), â’r dyddiad meddiannu;

(b)os oedd yn ofynnol i’r landlord roi datganiad ysgrifenedig o dan adran 31(2), â’r diwrnod y rhoddodd y landlord y datganiad ysgrifenedig i ddeiliad newydd y contract;

(c)os oedd yn ofynnol i’r landlord roi datganiad ysgrifenedig pellach o dan adran 31(4) i (6), â diwrnod cyntaf y cyfnod a grybwyllir yn adran 31(6).

(4)Os yw’r llys yn fodlon bod y sail yn is-adran (1)(a), (1)(b) neu (1)(c) wedi ei phrofi, caiff wneud datganiad sy’n nodi’r teler cywir.

(5)Os yw’r llys yn fodlon bod y sail yn is-adran (1)(d) wedi ei phrofi, caiff wneud datganiad nad yw’r teler yn un o delerau’r contract.

(6)Caiff y llys—

(a)cysylltu datganiad ysgrifenedig o’r contract meddiannaeth i’w ddatganiad, neu

(b)gorchymyn i’r landlord roi datganiad ysgrifenedig wedi ei gywiro o’r contract i ddeiliad y contract.

(7)Os yw’r llys yn fodlon bod y datganiad ysgrifenedig yn anghywir fel y disgrifir yn is-adran (1) oherwydd diffyg bwriadol ar ran y landlord, caiff orchymyn i’r landlord dalu tâl digolledu i ddeiliad y contract o dan adran 87.

(8)Mae’r tâl digolledu yn daladwy ar gyfer y cyfnod, heb fod yn hwy na dau fis, a bennir gan y llys; a chaiff y llys orchymyn i’r landlord dalu llog ar unrhyw raddfa ac wedi ei gyfrifo mewn unrhyw fodd sy’n briodol yn ei farn.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 37 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2A. 37 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2