RHAN 3DARPARIAETHAU SY’N GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH

PENNOD 2DARPARU GWYBODAETH

Datganiad ysgrifenedig o’r contract

37Datganiad anghywir: cais deiliad y contract i’r llys

(1)

Caiff deiliad y contract o dan gontract meddiannaeth wneud cais i’r llys am ddatganiad bod datganiad ysgrifenedig o’r contract—

(a)

yn nodi un neu ragor o delerau’r contract yn anghywir neu’n nodi teler nad oes iddo unrhyw effaith,

(b)

yn datgan yn anghywir nad yw darpariaeth sylfaenol sy’n gymwys i’r contract wedi ei hymgorffori fel un o delerau’r contract oherwydd adran 20(1) neu 21(2),

(c)

yn datgan yn anghywir nad yw darpariaeth atodol sy’n gymwys i’r contract wedi ei hymgorffori fel un o delerau’r contract oherwydd adran 21(2), 24(1) neu 25(2), neu

(d)

yn nodi teler nad yw’n un o delerau’r contract.

(2)

Ond nid yw datganiad ysgrifenedig yn anghywir ond am nad yw’n nodi teler a amrywiwyd yn unol â’r contract neu drwy neu o ganlyniad i ddeddfiad, os rhoddwyd—

(a)

datganiad ysgrifenedig o’r teler a amrywiwyd yn unol ag adran 109, 128 neu 136, neu

(b)

hysbysiad o’r amrywiad yn unol ag adran 104, 105(2) i (4) neu 107(1)(b) a (2) i (6) (amrywio contractau diogel) neu adran 123 F1neu 124(2) i (4) (amrywio contractau safonol cyfnodol),

oni bai bod y datganiad wedi ei roi o dan adran 31(2) neu (4) ar ôl i unrhyw amrywiad o’r fath i deler gael effaith.

(3)

Ni chaiff deiliad y contract wneud cais i’r llys o dan is-adran (1) cyn diwedd y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau—

(a)

os oedd yn ofynnol i’r landlord roi datganiad ysgrifenedig o dan adran 31(1), â’r dyddiad meddiannu;

(b)

os oedd yn ofynnol i’r landlord roi datganiad ysgrifenedig o dan adran 31(2), â’r diwrnod y rhoddodd y landlord y datganiad ysgrifenedig i ddeiliad newydd y contract;

(c)

os oedd yn ofynnol i’r landlord roi datganiad ysgrifenedig pellach o dan adran 31(4) i (6), â diwrnod cyntaf y cyfnod a grybwyllir yn adran 31(6).

(4)

Os yw’r llys yn fodlon bod y sail yn is-adran (1)(a), (1)(b) neu (1)(c) wedi ei phrofi, caiff wneud datganiad sy’n nodi’r teler cywir.

(5)

Os yw’r llys yn fodlon bod y sail yn is-adran (1)(d) wedi ei phrofi, caiff wneud datganiad nad yw’r teler yn un o delerau’r contract.

(6)

Caiff y llys—

(a)

cysylltu datganiad ysgrifenedig o’r contract meddiannaeth i’w ddatganiad, neu

(b)

gorchymyn i’r landlord roi datganiad ysgrifenedig wedi ei gywiro o’r contract i ddeiliad y contract.

(7)

Os yw’r llys yn fodlon bod y datganiad ysgrifenedig yn anghywir fel y disgrifir yn is-adran (1) oherwydd diffyg bwriadol ar ran y landlord, caiff orchymyn i’r landlord dalu tâl digolledu i ddeiliad y contract o dan adran 87.

(8)

Mae’r tâl digolledu yn daladwy ar gyfer y cyfnod, heb fod yn hwy na dau fis, a bennir gan y llys; a chaiff y llys orchymyn i’r landlord dalu llog ar unrhyw raddfa ac wedi ei gyfrifo mewn unrhyw fodd sy’n briodol yn ei farn.