Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

34Methu â darparu datganiad ysgrifenedig etc.LL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Os yw’r landlord o dan gontract meddiannaeth wedi methu â chydymffurfio â gofyniad i ddarparu datganiad ysgrifenedig o dan adran 31, caiff deiliad y contract wneud cais i’r llys am ddatganiad llys ynghylch telerau’r contract.

(2)Pan wneir cais o dan is-adran (1) mae pob darpariaeth sylfaenol ac atodol sy’n gymwys i’r contract i’w thrin fel pe bai wedi ei hymgorffori fel un o delerau’r contract heb ei haddasu, oni bai bod deiliad y contract yn honni nad oedd wedi ei hymgorffori neu’n honni ei bod wedi ei hymgorffori ynghyd ag addasiadau iddi.

(3)Os yw deiliad y contract yn gwneud honiad o fath a grybwyllir yn is-adran (2), rhaid i’r llys ddyfarnu ar yr honiad hwnnw.

(4)Nid yw is-adran (3) yn gymwys os gellir priodoli methiant y landlord i gydymffurfio ag adran 31 i weithred neu anwaith ar ran deiliad y contract.

(5)Caiff y llys—

(a)cysylltu datganiad o’r contract meddiannaeth i’w ddatganiad, neu

(b)gorchymyn i’r landlord roi datganiad ysgrifenedig o’r contract i ddeiliad y contract.

[F1(6)Mae paragraffau 1 a 2 o Atodlen 9A yn gwneud darpariaeth yn ymwneud â chontractau safonol cyfnodol, a chontractau safonol cyfnod penodol sy’n ymgorffori adran 186 neu sy’n cynnwys cymal terfynu’r landlord, sy’n atal landlord rhag rhoi hysbysiad (o dan adran 173 neu 186 neu o dan gymal terfynu’r landlord) sy’n ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad contract ildio meddiant, os nad yw’r landlord wedi darparu datganiad ysgrifenedig o’r contract o dan adran 31(1) neu (2).]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 34 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2A. 34 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2