RHAN 3DARPARIAETHAU SY’N GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH
PENNOD 2DARPARU GWYBODAETH
Datganiad ysgrifenedig o’r contract
34Methu â darparu datganiad ysgrifenedig etc.
(1)
Os yw’r landlord o dan gontract meddiannaeth wedi methu â chydymffurfio â gofyniad i ddarparu datganiad ysgrifenedig o dan adran 31, caiff deiliad y contract wneud cais i’r llys am ddatganiad llys ynghylch telerau’r contract.
(2)
Pan wneir cais o dan is-adran (1) mae pob darpariaeth sylfaenol ac atodol sy’n gymwys i’r contract i’w thrin fel pe bai wedi ei hymgorffori fel un o delerau’r contract heb ei haddasu, oni bai bod deiliad y contract yn honni nad oedd wedi ei hymgorffori neu’n honni ei bod wedi ei hymgorffori ynghyd ag addasiadau iddi.
(3)
Os yw deiliad y contract yn gwneud honiad o fath a grybwyllir yn is-adran (2), rhaid i’r llys ddyfarnu ar yr honiad hwnnw.
(4)
Nid yw is-adran (3) yn gymwys os gellir priodoli methiant y landlord i gydymffurfio ag adran 31 i weithred neu anwaith ar ran deiliad y contract.
(5)
Caiff y llys—
(a)
cysylltu datganiad o’r contract meddiannaeth i’w ddatganiad, neu
(b)
gorchymyn i’r landlord roi datganiad ysgrifenedig o’r contract i ddeiliad y contract.
F1(6)
Mae paragraffau 1 a 2 o Atodlen 9A yn gwneud darpariaeth yn ymwneud â chontractau safonol cyfnodol, a chontractau safonol cyfnod penodol sy’n ymgorffori adran 186 neu sy’n cynnwys cymal terfynu’r landlord, sy’n atal landlord rhag rhoi hysbysiad (o dan adran 173 neu 186 neu o dan gymal terfynu’r landlord) sy’n ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad contract ildio meddiant, os nad yw’r landlord wedi darparu datganiad ysgrifenedig o’r contract o dan adran 31(1) neu (2).