RHAN 3DARPARIAETHAU SY’N GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH
PENNOD 2DARPARU GWYBODAETH
Datganiad ysgrifenedig o’r contract
32Yr hyn y mae datganiad ysgrifenedig i’w gynnwys
(1)
Rhaid i ddatganiad ysgrifenedig o gontract meddiannaeth nodi enwau’r partïon i’r contract.
(2)
Rhaid iddo hefyd nodi—
(a)
telerau’r contract sy’n ymdrin â materion allweddol mewn perthynas â’r contract,
(b)
telerau sylfaenol y contract,
(c)
telerau atodol y contract, a
(d)
unrhyw delerau ychwanegol.
(3)
Rhaid iddo nodi—
(a)
unrhyw ddarpariaeth sylfaenol sy’n gymwys i’r contract nad yw wedi ei hymgorffori fel un o delerau’r contract oherwydd adran 20(1) neu 21(2), a
(b)
unrhyw ddarpariaeth atodol sy’n gymwys i’r contract nad yw wedi ei hymgorffori fel un o delerau’r contract oherwydd adran 21(2), 24(1) neu 25(2).
(4)
Rhaid iddo gynnwys gwybodaeth esboniadol am unrhyw faterion a ragnodir.