RHAN 3DARPARIAETHAU SY’N GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH

PENNOD 2DARPARU GWYBODAETH

Datganiad ysgrifenedig o’r contract

31Datganiad ysgrifenedig

(1)

Rhaid i’r landlord o dan gontract meddiannaeth roi datganiad ysgrifenedig o’r contract i ddeiliad y contract cyn diwedd y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau â’r dyddiad meddiannu.

(2)

Os yw deiliad y contract o dan gontract meddiannaeth yn newid, rhaid i’r landlord roi datganiad ysgrifenedig o’r contract i ddeiliad newydd y contract cyn diwedd y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau—

(a)

â’r diwrnod y mae deiliad y contract yn newid, neu

(b)

os yw’n hwyrach, â’r diwrnod y daw’r landlord (neu yn achos cyd-landlordiaid, unrhyw un ohonynt) i wybod bod deiliad y contract wedi newid.

(3)

Ni chaiff y landlord godi ffi am ddarparu datganiad ysgrifenedig o dan is-adran (1) neu (2).

(4)

Caiff deiliad y contract ofyn am ddatganiad ysgrifenedig pellach o’r contract unrhyw bryd.

(5)

Caiff y landlord godi ffi resymol am ddarparu datganiad ysgrifenedig pellach.

(6)

Rhaid i’r landlord roi’r datganiad ysgrifenedig pellach i ddeiliad y contract cyn diwedd y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau—

(a)

â’r diwrnod y gwneir y cais, neu

(b)

os yw’r landlord yn codi ffi, â’r diwrnod y mae deiliad y contract yn talu’r ffi.

(7)

Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth.