RHAN 1TROSOLWG O’R DDEDDF
Cyflwyniad i Rannau 1 a 2 ac i brif gysyniadau’r Ddeddf hon
3Darpariaethau sylfaenol a darpariaethau atodol contractau meddiannaeth
(1)
Mae Rhan 2 o’r Ddeddf hon yn sefydlu’r cysyniad o “ddarpariaeth sylfaenol”; hynny yw, darpariaeth yn y Ddeddf hon (adran fel arfer) sy’n cael ei chynnwys yn awtomatig fel un o delerau pob contract meddiannaeth, neu fel un o delerau contractau meddiannaeth penodedig (ac sydd felly’n ffurfio rhan o’r contract rhwng deiliad contract a landlord).
(2)
Unwaith y mae un o ddarpariaethau sylfaenol y Ddeddf hon wedi ei chynnwys mewn contract meddiannaeth, cyfeirir ati fel “teler sylfaenol” o’r contract (gweler adran 19).
(3)
Pan fydd y contract yn cael ei greu, gall y partïon gytuno y caiff darpariaeth sylfaenol ei chynnwys yn y contract ynghyd â newidiadau (y cyfeirir atynt yn y Ddeddf hon fel “addasiadau”) neu na chaiff ei chynnwys o gwbl; fodd bynnag, ni chaiff y partïon wneud y naill na’r llall o’r pethau hyn oni fydd yn gwella sefyllfa deiliad y contract, a cheir rhai darpariaethau sylfaenol y mae’n rhaid eu cynnwys heb newidiadau.
(4)
Unwaith y mae contract meddiannaeth wedi ei greu, gall y partïon amrywio ei delerau sylfaenol; ond mae rhai cyfyngiadau ar hyn.
(5)
Mae Rhan 2 o’r Ddeddf hon hefyd yn sefydlu’r cysyniad o “ddarpariaeth atodol”; hynny yw, darpariaeth a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru sy’n cael ei chynnwys yn awtomatig fel un o delerau pob contract meddiannaeth, neu fel un o delerau contractau meddiannaeth penodedig.
(6)
Unwaith y mae darpariaeth atodol wedi ei chynnwys mewn contract meddiannaeth, cyfeirir ati fel “teler atodol” o’r contract (gweler adran 23).
(7)
Pan fydd y contract yn cael ei greu, gall y partïon gytuno y caiff darpariaeth atodol ei chynnwys yn y contract ynghyd ag addasiadau neu na chaiff ei chynnwys o gwbl, ac unwaith y mae contract meddiannaeth wedi ei greu, gall y partïon amrywio ei delerau atodol; ond mae rhai cyfyngiadau ar hynny.