xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Telerau ychwanegol contract meddiannaeth yw unrhyw un neu ragor o delerau datganedig y contract ac eithrio—
(a)telerau sy’n ymdrin â’r materion allweddol mewn perthynas â’r contract,
(b)telerau sylfaenol y contract, ac
(c)telerau atodol y contract.
(2)Nid oes unrhyw effaith i un o delerau ychwanegol contract meddiannaeth sy’n anghydnaws ag unrhyw un neu ragor o’r telerau a grybwyllir ym mharagraffau (a) i (c) o is-adran (1).
(3)Yn y Ddeddf hon mae i “telerau ychwanegol” yr ystyr a roddir gan is-adran (1).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 28 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I2A. 28 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2