RHAN 2CONTRACTAU MEDDIANNAETH A LANDLORDIAID
PENNOD 5MATERION ALLWEDDOL A THELERAU YCHWANEGOL CONTRACTAU MEDDIANNAETH
28Telerau ychwanegol
(1)
Telerau ychwanegol contract meddiannaeth yw unrhyw un neu ragor o delerau datganedig y contract ac eithrio—
(a)
telerau sy’n ymdrin â’r materion allweddol mewn perthynas â’r contract,
(b)
telerau sylfaenol y contract, ac
(c)
telerau atodol y contract.
(2)
Nid oes unrhyw effaith i un o delerau ychwanegol contract meddiannaeth sy’n anghydnaws ag unrhyw un neu ragor o’r telerau a grybwyllir ym mharagraffau (a) i (c) o is-adran (1).
(3)
Yn y Ddeddf hon mae i “telerau ychwanegol” yr ystyr a roddir gan is-adran (1).