RHAN 2CONTRACTAU MEDDIANNAETH A LANDLORDIAID
PENNOD 5MATERION ALLWEDDOL A THELERAU YCHWANEGOL CONTRACTAU MEDDIANNAETH
27Materion allweddol pellach mewn perthynas â chontractau safonol
Mae’r canlynol yn faterion allweddol mewn perthynas â chontractau safonol (yn ychwanegol at y rheini a nodir yn adran 26)—
(a)
pa un a yw’r contract yn un cyfnodol neu wedi ei wneud am gyfnod penodol,
(b)
y cyfnod dan sylw, os yw wedi ei wneud am gyfnod penodol, ac
(c)
os oes cyfnodau pan nad oes gan ddeiliad y contract hawl i feddiannu’r annedd fel cartref, y cyfnodau dan sylw (gweler adrannau 121 a 133).