Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

27Materion allweddol pellach mewn perthynas â chontractau safonolLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

Mae’r canlynol yn faterion allweddol mewn perthynas â chontractau safonol (yn ychwanegol at y rheini a nodir yn adran 26)—

(a)pa un a yw’r contract yn un cyfnodol neu wedi ei wneud am gyfnod penodol,

(b)y cyfnod dan sylw, os yw wedi ei wneud am gyfnod penodol, ac

(c)os oes cyfnodau pan nad oes gan ddeiliad y contract hawl i feddiannu’r annedd fel cartref, y cyfnodau dan sylw (gweler adrannau 121 a 133).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 27 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2A. 27 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2