RHAN 2CONTRACTAU MEDDIANNAETH A LANDLORDIAID
PENNOD 5MATERION ALLWEDDOL A THELERAU YCHWANEGOL CONTRACTAU MEDDIANNAETH
26Materion allweddol mewn perthynas â phob contract meddiannaeth
Mae’r canlynol yn faterion allweddol mewn perthynas â phob contract meddiannaeth—
(a)
yr annedd,
(b)
y dyddiad meddiannu,
(c)
swm y rhent neu gydnabyddiaeth arall, a
(d)
y cyfnodau rhentu.