RHAN 11DARPARIAETHAU TERFYNOL
Rheoliadau
256Rheoliadau
(1)
Mae unrhyw bŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon—
(a)
i’w arfer drwy offeryn statudol,
(b)
yn bŵer y caniateir ei arfer er mwyn gwneud darpariaeth wahanol ar gyfer gwahanol achosion neu ddisgrifiadau o achos neu ar gyfer gwahanol ddibenion neu ardaloedd,
(c)
yn bŵer y caniateir ei arfer er mwyn gwneud darpariaeth wahanol ar gyfer gwahanol fathau neu ddisgrifiadau o gontract meddiannaeth, oni bai bod y pŵer ond yn gymwys mewn perthynas â mathau neu ddisgrifiadau penodol o gontract meddiannaeth, a
(d)
yn cynnwys pŵer i wneud darpariaeth gysylltiedig, darpariaeth atodol, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.
(2)
Caiff rheoliadau o dan y Ddeddf hon wneud diwygiadau canlyniadolF1, addasiadau, diddymiadau a dirymiadau i unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys darpariaeth yn y Ddeddf hon) .
(3)
Ni chaniateir gwneud rheoliadau y mae’r is-adran hon yn gymwys iddynt oni bai bod drafft o’r offeryn statudol sy’n cynnwys y rheoliadau (boed ar eu pen eu hunain neu ynghyd â rheoliadau nad yw’r is-adran hon yn gymwys iddynt) wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.
(4)
Mae is-adran (3) yn gymwys i reoliadau o dan—
(a)
adran 9 (pŵer i ddiwygio’r adran honno),
(b)
adran 22 (pwerau o ran darpariaethau sylfaenol),
(c)
adran 56 (pŵer i ddiwygio adran 55),
(d)
adran 68 (pŵer i ddiwygio adrannau 66 a 67),
F2(da)
adran 121 (pŵer i ddiwygio’r Ddeddf mewn perthynas â’r pŵer i wahardd deiliad contract o dan gontract safonol cyfnodol o annedd am gyfnodau penodol),
(db)
adran 133 (pŵer i ddiwygio’r Ddeddf mewn perthynas â’r pŵer i wahardd deiliad contract o dan gontract safonol cyfnod penodol o annedd am gyfnodau penodol),
(e)
adran 217 (pŵer i ddiwygio’r adran honno),
(f)
adran 223 (pŵer i ddiwygio adrannau 220 a 222),
(g)
adran 229 (pŵer i ddiwygio adrannau 225 i 228),
F3(ga)
adran 239A (pŵer i wneud darpariaeth ynghylch tenantiaethau a thrwyddedau penodol),
(h)
paragraff 17 o Atodlen 2 (pŵer i ddiwygio’r Atodlen honno),
(i)
paragraff 17 o Atodlen 3 (pŵer i ddiwygio’r Atodlen honno),
(j)
paragraff 3 o Atodlen 4 (pŵer i newid y terfyniad amser ar gyfer rhoi hysbysiad o ymestyn y cyfnod rhagarweiniol),
(k)
paragraff 5 o Atodlen 5 (pŵer i ddiwygio’r Atodlen honno),
(l)
paragraff 4 o Atodlen 7 (pŵer i newid y terfyniad amser ar gyfer rhoi hysbysiad o estyniad o gyfnod prawf),
F4(la)
paragraff 13 o Atodlen 8A (pŵer i ddiwygio’r Atodlen honno),
(m)
paragraff 13 o Atodlen 9 (pŵer i ddiwygio’r Atodlen honno),
F5(ma)
paragraff 8 o Atodlen 9A (pŵer i ddiwygio’r Atodlen honno),
(mb)
paragraff 11 o Atodlen 9B (pŵer i ddiwygio’r Atodlen honno),
(mc)
paragraff 11 o Atodlen 9C (pŵer i ddiwygio’r Atodlen honno), ac
(n)
paragraff 33 o Atodlen 12 (pŵer i ddiwygio’r Atodlen honno).
(5)
Mae is-adran (3) hefyd yn gymwys i unrhyw reoliadau eraill o dan y Ddeddf hon sy’n diwygio, yn addasu neu’n dirymu unrhyw ddarpariaeth mewn Deddf Seneddol neu Fesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
(6)
Mae offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau a wneir o dan ddarpariaeth yn y Ddeddf hon nad yw is-adran (3) yn gymwys iddynt, yn ddarostyngedig i gael ei ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.