Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

255Pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol a throsiannol etc.LL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Os yw Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol neu’n hwylus at ddiben rhoi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon, neu o ganlyniad i unrhyw ddarpariaeth o’r fath, cânt wneud drwy reoliadau—

(a)unrhyw ddarpariaeth atodol, darpariaeth gysylltiedig neu ddarpariaeth ganlyniadol, a

(b)unrhyw ddarpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) ddiwygio, diddymu, dirymu neu addasu unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys darpariaeth yn y Ddeddf hon) F1....

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 255 mewn grym ar 19.1.2016, gweler a. 257(1)