RHAN 11DARPARIAETHAU TERFYNOL

Dehongli’r Ddeddf

252Mân ddiffiniadau

Yn y Ddeddf hon—

ystyr “contract cyflogaeth” (“contract of employment”) yw contract gwasanaeth neu brentisiaeth, boed yn ddatganedig neu’n oblygedig, ac (os yw’n ddatganedig) boed ar lafar neu mewn ysgrifen;

ystyr “contract cyfnod penodol” (“fixed term contract”) yw contract meddiannaeth nad yw’n gontract cyfnodol;

ystyr “cyfnod rhentu” (“rental period”) yw cyfnod y mae rhent yn daladwy ar ei gyfer;

mae i “cymdeithas dai” yr ystyr sydd i “housing association” yn Neddf Cymdeithasau Tai 1985 (p. 69) (gweler adran 1 o’r Ddeddf honno);

ystyr “deddfiad” (“enactment”) yw deddfiad (pryd bynnag y’i deddfwyd neu y’i gwnaed, oni bai bod bwriad i’r gwrthwyneb yn ymddangos), sydd wedi ei gynnwys mewn, neu mewn offeryn a wnaed o dan—

(a)

Deddf Seneddol, neu

(b)

Mesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (gan gynnwys y Ddeddf hon);

ystyr “elusen gofrestredig“ (“registered charity”) yw elusen sydd wedi ei chofrestru o dan Ddeddf Elusennau 2011 (p. 25);

mae i “hawliau Confensiwn” yr ystyr sydd i “Convention rights” yn Neddf Hawliau Dynol 1998 (p. 42);

ystyr “rhagnodedig” (“prescribed”) yw wedi ei rhagnodi drwy reoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru;

ystyr “rhannau cyffredin” (“common parts”), mewn perthynas ag annedd sy’n ddarostyngedig i gontract meddiannaeth, yw—

(a)

unrhyw ran o adeilad sy’n ffurfio’r annedd honno, a

(b)

unrhyw fangre arall (gan gynnwys unrhyw annedd arall),

mae “rhent” (“rent”) yn cynnwys swm sy’n daladwy o dan drwydded;

F1mae i “tenantiaeth cymdeithas dai” yr un ystyr â “housing association tenancy” yn Rhan 6 o Ddeddf Rhenti 1977 (p. 42) (gweler adran 86 o’r Ddeddf honno);

mae i “ymddiriedolaeth dai” yr ystyr sydd i “housing trust” yn Neddf Cymdeithasau Tai 1985 (gweler adran 2 o’r Ddeddf honno).