Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

25Effaith peidio ag ymgorffori darpariaethau atodol ac addasu darpariaethau atodolLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae is-adrannau (2) a (3) yn gymwys—

(a)pan na fo darpariaeth atodol wedi ei hymgorffori fel un o delerau contract meddiannaeth oherwydd cytundeb o dan adran 24(1), neu

(b)pan fo darpariaeth atodol wedi ei hymgorffori fel un o delerau’r contract ynghyd ag addasiadau iddi oherwydd cytundeb o dan adran 24(2).

(2)Os, o ganlyniad, yw’n angenrheidiol nad yw darpariaeth atodol arall yn cael ei hymgorffori, nid yw’r ddarpariaeth arall wedi ei hymgorffori.

(3)Os, o ganlyniad, yw’n angenrheidiol ymgorffori darpariaeth atodol arall ynghyd ag addasiadau iddi, mae’r ddarpariaeth arall wedi ei hymgorffori ynghyd â’r addasiadau angenrheidiol hynny (yn ogystal ag unrhyw addasiadau a wneir oherwydd cytundeb o dan adran 24(2)).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 25 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2A. 25 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2