RHAN 11DARPARIAETHAU TERFYNOL

Dehongli’r Ddeddf

246Annedd

(1)

At ddibenion y Ddeddf hon, ystyr “annedd” yw annedd F1sydd yng Nghymru, ac—

(a)

nid yw’n cynnwys unrhyw strwythur neu gerbyd y gellir ei symud o un lle i’r llall, ond

(b)

mae’n cynnwys unrhyw dir a feddiennir ynghyd â’r annedd, oni bai bod y tir yn dir amaethyddol sy’n fwy na 0.809 hectar.

(2)

Ystyr “tir amaethyddol” yw—

(a)

tir a ddefnyddir fel tir âr, doldir neu borfa yn unig;

(b)

tir a ddefnyddir ar gyfer planhigfa neu goedwig neu ar gyfer tyfu prysgwydd y gellir eu gwerthu;

(c)

tir a ddefnyddir at ddiben ffermio dofednod, gerddi marchnad, tiroedd planhigfa, perllannau neu randiroedd, gan gynnwys gerddi rhandir o fewn ystyr Deddf Rhandiroedd 1922 (p. 51),

ond nid yw’n cynnwys tir a feddiennir ynghyd â thŷ fel parc, gerddi (ac eithrio fel y crybwyllir ym mharagraff (c)) neu diroedd hamdden, tir a ddefnyddir yn bennaf neu’n llwyr at ddibenion chwaraeon neu hamdden neu dir a ddefnyddir fel cae ras.

(3)

Ystyr annedd, mewn perthynas â chontract meddiannaeth, yw’r annedd sy’n ddarostyngedig i’r contract.