246AnneddLL+C
(1)At ddibenion y Ddeddf hon, ystyr “annedd” yw annedd [F1sydd] yng Nghymru, ac—
(a)nid yw’n cynnwys unrhyw strwythur neu gerbyd y gellir ei symud o un lle i’r llall, ond
(b)mae’n cynnwys unrhyw dir a feddiennir ynghyd â’r annedd, oni bai bod y tir yn dir amaethyddol sy’n fwy na 0.809 hectar.
(2)Ystyr “tir amaethyddol” yw—
(a)tir a ddefnyddir fel tir âr, doldir neu borfa yn unig;
(b)tir a ddefnyddir ar gyfer planhigfa neu goedwig neu ar gyfer tyfu prysgwydd y gellir eu gwerthu;
(c)tir a ddefnyddir at ddiben ffermio dofednod, gerddi marchnad, tiroedd planhigfa, perllannau neu randiroedd, gan gynnwys gerddi rhandir o fewn ystyr Deddf Rhandiroedd 1922 (p. 51),
ond nid yw’n cynnwys tir a feddiennir ynghyd â thŷ fel parc, gerddi (ac eithrio fel y crybwyllir ym mharagraff (c)) neu diroedd hamdden, tir a ddefnyddir yn bennaf neu’n llwyr at ddibenion chwaraeon neu hamdden neu dir a ddefnyddir fel cae ras.
(3)Ystyr annedd, mewn perthynas â chontract meddiannaeth, yw’r annedd sy’n ddarostyngedig i’r contract.
Diwygiadau Testunol
F1Gair yn a. 246(1) wedi ei hepgor (7.6.2021) yn rhinwedd Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), a. 19(3), Atod. 5 para. 7
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 246 mewn grym ar 19.1.2016, gweler a. 257(1)