244Landlord, lletywr a meddiannydd a ganiateirLL+C
(1)Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion dehongli’r Ddeddf hon.
(2)Y landlord, mewn perthynas â chontract meddiannaeth, yw’r person sydd (neu sy’n honni ei fod) â hawl i roi’r hawl i unigolyn feddiannu’r annedd fel cartref.
(3)Mae person yn byw mewn annedd fel lletywr os yw’r denantiaeth neu’r drwydded y mae’n meddiannu’r annedd oddi tani yn dod o fewn paragraff 6 o Atodlen 2 (llety a rennir â’r landlord).
(4)Ond nid yw person yn byw mewn annedd fel lletywr os rhoddir hysbysiad iddo o dan baragraff 3 o Atodlen 2 bod ei denantiaeth neu drwydded yn gontract meddiannaeth.
(5)Mae person yn feddiannydd a ganiateir mewn annedd sy’n ddarostyngedig i gontract meddiannaeth—
(a)os yw’n byw yn yr annedd fel lletywr neu isddeiliad i ddeiliad y contract, neu
(b)os nad yw’n lletywr nac yn isddeiliad ond bod deiliad y contract yn caniatáu iddo fyw yn yr annedd fel cartref.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 244 mewn grym ar 19.1.2016, gweler a. 257(1)