RHAN 11DARPARIAETHAU TERFYNOL
Dehongli’r Ddeddf
243Awdurdodau lleol ac awdurdodau eraill
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion dehongli’r Ddeddf hon.
(2)
Mae’r canlynol yn awdurdodau lleol—
(a)
cyngor sir ar gyfer ardal yng Nghymru,
(b)
cyngor bwrdeistref sirol, ac
(c)
comisiynydd heddlu a throseddu ar gyfer ardal heddlu yng Nghymru.
(3)
Ystyr “awdurdod tai lleol” (ac eithrio ym mharagraff F110A a pharagraff 12 o Atodlen 2) yw cyngor sir ar gyfer ardal yng Nghymru neu gyngor bwrdeistref sirol.
F2(4)
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(5)
Mae i “corfforaeth dref newydd” yr un ystyr â “new town corporation” yn Neddf Tai 1985 (p. 68) (gweler adran 4 o’r Ddeddf honno).
(6)
Ystyr “corfforaeth datblygu trefol” yw corfforaeth datblygu trefol a sefydlwyd o dan Ran 16 o Ddeddf Llywodraeth Leol, Cynllunio a Thir 1980 (p. 65) ac mae’n cynnwys unrhyw gorff a sefydlwyd o dan adran 165B o’r Ddeddf honno.